Cyfarfod |
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau/Gofal Lliniarol
|
Lleoliad: |
Ystafell Gynadledda 24,Tŷ Hywel |
Dyddiad ac amser: |
25 Mawrth 2014 12-1pm |
Trefnydd: |
Steve McCauleys.mccauley@helpthehospices.org.uk |
Ian Bellingham, Hosbis Sant Cyndeyrn
Helen Cunningham, Swyddfa Jenny Rathbone AC
Chris Dawson, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwenllian Griffiths, Macmillan
Gladys Harrison, Hosbis Dewi Sant
Mark Isherwood AC (Cadeirydd)
Simon Jones, Gofal Canser Marie Curie
Tracy Livingstone, Hosbis Tŷ'r Eos
Steve McCauley, Help the Hospices
Julie Morgan AC
Margaret Pritchard, Gofal Hosbis George Thomas
Trystan Pritchard, Hosbis Dewi Sant
Aled Roberts AC
Jayne Saunders, Ty Hafan
John Savage, Hosbis Ty'r Eos
Emma Saysell, Sefydliad Dewi Sant
Veronica Snow, Bwrdd Addysgu Iechyd Powys
Sophie Thomas, Sefydliad Paul Sartori
Jennie Willmott, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Natasha Wynne, Gofal Canser Marie Curie
Ymddiheuriadau
Janette Bourne, Gofal Galar Cruse Cymru
Paul Cronin, Hosbis Hafren
Sandra Dade, Sefydliad Paul Sartori
Y Farwnes Finlay
Andy Goldsmith, Tŷ Gobaith
Bethan Jenkins AC
Robyn Miles, GSK
Robin Moulster, BASW
Antoinette Sandbach AC
Ruth Walker, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Allison Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Eitem |
Crynodeb |
Cam gweithredu |
H&PC/1 |
Croeso a chyflwyniadau
Croesawodd Mark Isherwood bawb i'r cyfarfod cyntaf ers dros flwyddyn o’r Grŵp Trawsbleidiol dros Hosbisau a Gofal Lliniarol. |
|
H&PC/2
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2013.
Llythyr y grŵp trawsbleidiol at y Gweinidog Iechyd ynglŷn â gwella gweithio mewn partneriaeth â’r Byrddau Iechyd Lleol.
Nid oedd yn glir beth oedd wedi digwydd mewn perthynas â hyn. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn ymchwilio i’r mater ac yn adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf. |
Yr Ysgrifenyddiaeth
|
H&PC/3
|
Ariannu hosbisau a gofal lliniarol yn y dyfodol
Gwahoddwyd Chris Dawson, o’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi trosolwg o’r sefyllfa cyn cael trafodaeth grŵp. Rhannodd Chris ei sylwadau’n ddwy ran: y cynllun cyflawni ac ariannu yn y dyfodol.
Y cynllun cyflawni: Nododd Chris fod hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a soniodd am ymrwymiad personol Mark Drakeford i ofal lliniarol a diwedd oes.
Soniodd Chris am y fethodoleg sy’n tanategu’r cynllun – mae pwyslais ar weithredoedd a chanlyniadau craidd, gyda fframwaith mesurau wedi’i ddiffinio ar waith. Mae’r cynllun hefyd yn ceisio bod yn dryloyw, gan ddarparu cysondeb ac eglurder, ac mae cynlluniau lleol (drwy’r byrddau iechyd) y dylai hosbisau fod ynghlwm â hwy.
Mynegodd aelodau o Hosbisau Cymru, yn cynnwys John Savage, Sophie Thomas ac Ian Bellingham, bryderon ynglŷn â’r cynllun cyflawni, gan ddweud nad oedd yn strategaeth gywir, dim ond cyfres o weithredoedd. Soniodd Jayne Saunders hefyd nad oedd strategaeth ar wahân ar gyfer gwasanaethau plant a chwynodd am y diffyg gwybodaeth gan y Bwrdd. Anogodd Chris y rheini a oedd yn bresennol i ysgrifennu at y Bwrdd Gofal Diwedd Oes i fynegi’u pryderon ac i ofyn cwestiynau.
Mynegwyd pryderon hefyd am y diffyg tryloywder ynglŷn ag aelodaeth y Bwrdd a’i waith, gan na chafodd y wefan ei hadolygu ers 2011. Bydd Chris yn codi’r mater hwn yn fewnol.
Parhaodd Chris drwy dynnu sylw at y digwyddiadau yn ystod Wythnos Dying Matters (12-18 Mai) – digwyddiad ‘Dying to Talk’ ar 13 yng Nghaerdydd, ac un ar 29 yn Llandudno – yn ogystal â lansiad Marw gydag Urddas yng Nghymru.
Cam gweithredu: Credai Mark Isherwood y dylai’r grŵp ysgrifennu at y Gweinidog i dynnu sylw at rinweddau cydweithio o ran cydgynllunio a chyd-ddarparu gwasanaethau. Roedd y grŵp yn cytuno â hyn.
Ariannu yn y dyfodol: Tynnodd Chris sylw at y ffaith nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud a rhoddodd rybudd ynglŷn â’r cyd-destun ariannu ar draws polisi cyhoeddus. Nododd yr heriau enfawr sydd i ddod a dywedodd ei fod yn agored i drafod yr holl opsiynau.
Roedd Papur 3 ar yr agenda gan Hosbisau Cymru yn amlinellu llawer o fanteision aros yr un fath o ran ariannu uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i hosbisau a thynnodd Chris, fel gwas sifil, sylw at rai anhawsterau. Roedd y rhain yn cynnwys eglurder a chysondeb trefniadau llywodraethu yn y byd ar ôl yr adroddiad Francis; a’r cwestiwn ynglŷn ag ai’r Byrddau Iechyd Lleol ddylai fod y cyrff atebol. Dywedodd Chris na all Byrddau Iechyd Lleol weithredu heb hosbisau ac felly sut yr ydym i ysgogi’r berthynas rhwng y ddau?
Trafodaeth grŵp Dechreuodd John Savage drwy nodi nad yw comisiynu yn digwydd yng Nghymru a bod bwlch mawr rhwng strwythurau a llywodraethu yng Ngogledd a De Cymru.
Adleisiodd Sophie Thomas y pwynt ynglŷn â chomisiynu a dywedodd mai Cytundeb Lefel Gwasanaeth oedd ariannu ar wahân i’r enw. Credai hefyd fod gan y Bwrdd lawer gwell dealltwriaeth o’r sector na’r Byrddau Iechyd Lleol.
Roedd gan Simon Jones, o Marie Curie, farn wahanol ar y papur gan Hosbisau Cymru. Roedd am wneud i Fyrddau Iechyd Lleol weithio i ardaloedd lleol ac roedd yn cefnogi datganoli, gyda diogelwch. Tynnodd Simon sylw hefyd at y ffaith nad oedd arian Gofal Lliniarol Arbenigol yn dryloyw.
I Ian Bellingham roedd y cwestiwn yn ymwneud ag a ydym am gael fframwaith comisiynu neu ddyraniadau wedi’u neilltuo yng Nghymru. Roedd yn rhaid dewis y naill neu’r llall. Roedd John Savage yn pryderu am y rhagolwg o lastwreiddio’r arian statudol pe bai’n cael ei ddatganoli, yn ogystal â’r potensial ar gyfer gofynion ychwanegol.
Credai Jennie Willmott o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y dylid neilltuo arian canolog pe bai’n cael ei ddatganoli.
Daeth Chris Dawson â’r drafodaeth i ben drwy ddweud y byddai’n adrodd yn ôl ar yr angen am gysondeb yn yr ansawdd a’r ymgysylltiad; cysondeb yn y cytundebau lefel gwasanaeth; tryloywder y Bwrdd ei hun; a’r angen i ddiogelu’r arian ar gyfer hosbisau a gofal lliniarol.
Cam gweithredu: Bydd y grŵp yn drafftio llythyr at y Gweinidog yn nodi’r diffyg strategaeth fanwl ac yn galw am neilltuo’r arian canolog presennol waeth beth fydd strwythur ariannu statudol yn y dyfodol. Gellid drafftio’r ddau lythyr fel un i gynnwys y cynllun cyflawni a’r ariannu. |
Yr Ysgrifenyddiaeth
Yr Ysgrifenyddiaeth |
H&PC/4
H&PC/5 |
Unrhyw fater arall
Caiff camau gweithredu a chanlyniadau cyfarfod 2013 eu hymchwilio a’u hychwanegu at y papurau yn y cyfarfod nesaf fel sy’n briodol.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol yn yr hydref yng Ngogledd Cymru. Caiff y manylion eu cadarnhau yn nes ymlaen. |
Yr Ysgrifenyddiaeth
|